Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Tachwedd 2017
Amser:
14.00 -
15.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4354
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Adam Price AC |
Tystion: |
Katie Dalton, Cymorth Cymru Enid Roberts, Cartrefi Cymunedol Gwynedd Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru Katie Dalton, Cymorth Cymru Rhian Stone, Cymorth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.
1.3 Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r diweddar Carl Sargeant AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru o'r gyllid yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd a chanfyddiadau adolygiad Deloitte o faterion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. O ran Cyflogau Uwch-reolwyr, nododd y Pwyllgor y byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd yn ôl ar ôl trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru; Enid Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd; Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru a Rhian Stone, Cyfarwyddwr Gofal a Chymorth yn Grŵp POBL a Chadeirydd Cymorth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyda'r pryderon a fynegwyd ynghylch y syniad arfaethedig o roi gorau i neilltuo cyllideb y Rhaglen Cefnogi Pobl a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed.
5.2 Nododd yr Aelodau fod yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagweld cyhoeddi adroddiad ar sut y mae llywodraeth leol yn rheoli'r galw am wasanaethau digartrefedd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd y gellid ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad hwn.